P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion

 

Geiriad y ddeiseb

 

Rydym ni, sy’n talu ardrethi busnes yng Ngheredigion, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i asesu effaith y newidiadau mewn gwerthoedd ardrethol ar fusnesau Ceredigion.

Dylai’r asesiad hwn gynnwys yr effaith ar swyddi ac ar gau busnesau.

Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=878

 

Cynigwyd gan: Busnesau sy’n talu ardrethi busnes yng Ngheredigion

Nifer y llofnodion: 68

Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 19 Ionawr, 1 Chwefror, 27 Ebrill, 25 Mai, 29 Mehefin 2010, 8 Chwefror, 1 Mawrth, 29 Mawrth, 21 Mehefin, 12 Gorffenaf 2011.

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y Pwyllgor Menter a Busnes.